Kosovo
Mae'r strydoedd gwaed yn dawel dawel
Dim ond cyrff sy'n pydru nawr
O beth dwi 'di wneud i haeddu hyn ?
Draw yn Kosovo mae'r pyllau gwaed
Mamau'n wylo wrth weled
Gwaed eu hannwyl feibion yn llifo yn llyn
O beth maent wedi wneud i haeddu hyn ?
Draw yn Kosovo bachgen tair oed
Yn tyllu a thyllu
Yn chwilio a chwalu am law ei fam
Draw yn ngwledydd pell y byd
Mae pawb yn hapus ac yn glyd
Ond draw yn Kosovo mae pawb yn gaeth
Beth maent wedi wneud i haeddu gwaeth
Catrin , Rheinallt ac Anna
|