Nôl..
  
Ysgrifenwyd y gerdd hon gan Lowri, Stephanie, William a Shôn, Blwyddyn 3 a 4 o Ysgol Bontnewydd.

  
RHYFEL

Mae'r tanciau yn drwm
a gynnau yn gwneud swn
ifaciwis drygionus
sydd yn dorcalonus,
gwisgo mwgwd nwy
a dim eisiau dioddef mwy.
Y milwyr sydd yn gwisgo helmedau
i arbed rhag y bomiau.
Gynnau sydd ganddynt yn eu llaw,
i'r bobl ddiniwed gael braw.
Felly helpwch y pobl dlawd i gyd
i gael heddwch yn ein byd.

Lowri, Stephanie, William  a Shôn, , Ysgol Bontnewydd.