Nôl.. Ysgrifenwyd y gerdd hon gan Ben, Emma, Sarah a Karen o Ysgol Y Graig, Llangefni.

     
Beth sy'n dy wneud di'n Gymro ?

Beth sy'n dy wneud di'n Gymro ?

Chwarae telyn mewn eisteddfod,

Gwisgo cenin pedr ar Fawrth y cyntaf,

Mynd i'r ysgol Sul bob tro,

Taflu dillad isa' at Tom Jones ?

Beth sy'n dy wneud di'n Gymro ?

Dawnsio'n wyllt i Catatonia,

Gyrru cerdyn Santes Dwynwen,

Gwisgo hen wisg Gymreig,

Gwrando ar Bryn Terfel yn canu bas ?
    

Beth sy'n dy wneud di'n Gymro ?

Bwyta cawl ar Fawrth y cyntaf,

Clapio'n wyllt i'r Manics gwych,

Cofio Dydd Gwyl Dewi Sant,

Chwifio banner y Ddraig Goch.
    

Beth sy'n dy wneud di'n Gymro ?

Chwarae piano yn yr Urdd,

Gwylio Pobl y Cwm bob nos,

Siarad Cymraeg "All the way",

Chwarae rygbi yng Nghaerdydd.

Wyt ti'n Gymro ?
   

BEN, EMMA, SARAH a KAREN