Iaith Mewn Llun
Sibrwd mae Afon Gele
Wrth siarad ei hiaith ei hun
Pan welaf ffotograff
Abergele 1901.
Noson Ddigwsg Siwan
Tonnau unig y lleuad
a lleisiau oer fy meddwl
yn fy neffro.
Udo digalon ci,
sgrechian poenus y gwynt,
clecian traed milwr
a throtian ceffyl yn gymysg a
lleisiau poenus y tlodion.
Clecian budur y tan,
chwibanu digalon tylluan,
gwichian trist y drws,
gweryru'r ebol a'r cyfan
yn sgrechian drwy fy nghalon.
Eleri
|