Kosovo Druan
Rwyn crio dros Kosovo
Mae'n drueni drostynt hwythau
Plant bach yn gofyn
Pam na chaf innau hefyd yr hawl i fyw
Maent wedi cipio fy hawl
I chwarae gyda ffrindiau
Pam o pam
Na chaf innau hefyd yr hawl i fyw
Roeddwn yn byw mewn llawenydd
Ond nawr ble mae wedi mynd
Nawr rwyn wylo am lawenydd
Pam na chaf innau hefyd yr hawl i fyw
Nawr rwyf yma heb ddim byd
Pum munud a gefais i adael fy nhy
Mae popeth wedi mynd
Pam na chaf innau hefyd yr hawl i fyw
Dwi'n neb rwan
Dwi'n werth dim i neb
Dwi'n un o'r tlodion rwan
Does gennyf ddim mo'r hawl i fyw
Dwi'n disgwyl am ddyfodol gwell
Ond mae'r daith yn rhy bell
Gobeithio a gobeithio am fywyd gwell
O pam na chaf innau hefyd yr hawl i fyw ?
Rebeca |