|
|
Y cythrael bach yn dringo'r graig,
trwy'r rhedyn coch ag eithin.
Milgwn yn udo drwy'r goedwig,
yn benderfynol o'i ddal.
Drwy lynnoedd , drain a ffosydd,
briwiau mawr ar ei hyd.
Ei got lachar goch,
yn disgleirio dan y lloer.
Y cadno'n ceisio dianc ei orau,
yn ôl at ei deulu bach,
Mor ofnus, ei gynffon yn crynu,
Ei glustiau yn bigog, yn stret i fyny.
Fe glywodd y swn yn nesu,
rhaid dal i fynd, ond i ble?
Yn sydyn, plymiodd i'r afon
a nofio i'r ochr draw.
Y cwn yn dal i'w erlid
ond ni allant ei ffroeni 'nawr.
Y cadno a gafodd ail gyfle,
llithrodd yn slei drwy'r coed'
yn ôl i'r ffau at ei gybiau,
o leiaf yn ddiogel dros dro.
Arfon
|
Y cacwn bach yn gyrru rownd y trac,
yn gwibio i fewn ag allan.
Syllais arnynt mewn rhyfeddod
bob lliw a siap a llun.
Eu hymian fel cor deulais.
Weithiau'n uchel weithiau'n isel,
y colun yn gwenwyno'r awyr uwch ben.
Y lliwiau llachar yn fy nallu.
Pennau bach du yn bobian i fyny,
yn ddi lygaid a di drwyn.
Heibio'r corneli crwn,
Rhai ddim yn gallu cyrraedd,
wedi splatro'n fflat ar y llawr.
Bob man yn ddistaw!!!!
dim son am un gacynen fach,
dim ond trac unig a gwag.
A glywais, a welais i nhw,
yn gwibio mewn ag allan?
neu fi, ddychmygodd y cyfan.
Arfon
|