Syrffio.
Ydych chi'n hoffi syrffio?
Wel, rydw i,
Ond mewn ffordd arbennig iawn,
Nid ar y môr
Ond ar fy nhadair
Rwy'n cael hwyl a sbri!
Rwyn teithio i bobman
Ar draws y byd,
Os af i
Rywle oer neu boeth
Does dim gwahaniaeth,
Rwyn dal yn yr gegin glyd.
Rwyn syrffio wrth fwyta
'Mars bar'
I wledydd y byd
Ond nid wyf yno
Fy hun!
Rwyf yn y car!
Beth yw'r gyfrinach?
Gofynwch chi.
Wel mae'n hawdd,
Gyda cyfrifiadur!
Ceisiwch chi!
Bethan |
Pop
Llygaid bywiog,llawn bywyd,llon,
Llygaid glas fel llyn disglair,
Croen crychiog, cynnes,
A'i ddwylo'n arw i gyd.
Llais dwfn yn dweud geiriau da,
Ceg fach a gwefusau pinc,
Bochau coch fel rhosod,
A beth sydd ar ol o'i wallt ,yn wyn!
Wrth ei fodd gyda nofio,
Ac yn nofio fel siarc,
Yn chwaraer'trombone'a'baritone',
Ac yn llenwi'r ty gydai swn.
Yn dda ar dwyllo mewn cardiau!,
Ac wedi fy nysgu i!
Mae yn canu caneuon gwirion,
A'i hoff ddywediad yw:
'It's a hard life'
Bethan |