Nôl..
  

Ysgrifenwyd y ddwy gerdd hon gan Kieran  o Ysgol Tanycastell.

     
  Y Ddynes Binc

Hanner awr wedi tri,
Chweched ar hugain o Fai,
Agorwyd y Cynulliad,
Ym mae Caerdydd.
Tywysog Siarl yn siarad Cymraeg
A'r teulu brenhinol yno i gyd.
Cymerodd lai na phump eiliad,
I'r frenhines dorri ei llofnod,
Ac wedyn pawb yn clapio,
A'r ddynes binc aeth i'w le.
Gwyliom ni o yn yr ysgol,
Ac roedd pawb yn gweiddi, hwre,
Pawb mor falch fod Cymru
Yn cael siawns i reoli eu hun.

Kieran 

 
Tilly!

Mae Tilly yn anifail anwes,
I mi,
Ond mae hi yn un arbennig,
Dim cath, ci na physgodyn.
Mae hi'n gallu lladd fi,
Neu hwyrach ti,
Mae hi'n hir fel rhaff,
Ac yn dod o'r Affrig.
Dwi'n hoffi Tilly yn fawr iawn,
Ond dydi mam,
Ydych chi wedi dyfalu pwy ydi Tilly,
Wel NEIDR siwr!!!!!!!!

Kieran