Y Dieithryn
Syllodd arnai gyda'i lygaid
Fel marblins llonydd,
Yn las fel afonydd,
Yn llifo i lawr y bryn.
Dannedd melyn
Dannedd miniog,
A thrwyn pigog
Hyll fel gwrach!
Gwen annifyr,
Gwefus fel rhosod coch,
Fel ei foch;
A chroen crychiog hyll.
Craith i lawr ei wyneb
Fel rhaff hir,
Mae bob dim yn wir!
Roedd ias oer ynof!
Gwallt seimlyd
A budr
Yn sgleinio fel gwydr,
Yn felyn fel yr ser.
Diflanodd y dyn
I'r gwagle oer,
Edrychais ar y lloer,
Ble roedd y dyn 'di mynd?
Mae o hyd yn aflonyddu arnaf,
Mae gennyf ofn ofn mawr,
Mae'r dyn fel cawr
Yn rhedeg ar fy ôl.
Bethan |