Ysgrifenwyd y gerdd hon gan Mirain o Ysgol Bro Tryweryn.

       
Y Ddeintyddfa.
 
Cerddaf yn araf i'r ystafell erchyll, dywyll,
A chael fy ngosod mewn anghenfil o gadair.
Mae dyn llwyd fel ysbryd yn cerdded o'r cysgodion,
A dwsinau o offer metal, hyll,
Yn hongian o'i wregys.
Syllaf a chrynaf,
A sychu fy nwylo chwyslyd,crynedig.
Dannedd gosod yn cau ac agor,
Chwistrellau yn cael eu chwistrellu,
Pobl yn gweiddi
Brwshis dannedd yn rhedeg,
Driliau'n chwibannu,
Y deintydd yn crechwennu.
MmmmmaaaaaaaM!

Mirain