nolcoch.gif (1086 bytes)

Ysgrifenwyd y ddwy gerdd hon gan Meirion  o Ysgol Tanycastell.

  
Y Domen

Yng nghanol y sgip
Gwelais dractor llwyd.
Es i mewn i'r cab
a gweld hen set grablyd.
Edrychais ar y bonet
Wedi rhydu'n llwyr.
A'r paent fel croen
Yn pilio i ffwrdd.
Y teiars wedi gwisgo'n llyfn
Fel pen ôl babi.
A'r dynfar wedi disgyn
i ganol y mwd.
Gafaelais yn y llyw,
Cwympodd ar fy nhroed.
Suddais i lawr yn ddwfn
I'r twll yn y sedd.
Pwy oedd bia' hwn ?
Hen ffarmwr, neu'r dyn glo,
Neu hwyrach fy nhaid.
Roedd ganddo ef un fel hyn.

Meirion