|
Pry
Dacw fo ar y ddesg,
Daliwch y pry,
DRATIA!!!
Wedi dianc.
Ylwch, dyna fo eto,
Y pry bach du,
Yn hollol lonydd,
Yn syllu arna i,
Llygaid fel rhwyd.
llyfr wedi cau,
CLEC!!!
Lwc mul!
Chwe choes fach,
Chwe choes gam,
Ar y wal yn dawnsio.
Dau lygad du,
Dwy aden dryloyw.
CLEC!!!
Wedi ei ddal o'r diwedd
Philip |