Nôl..

Cerdd gan Blwyddyn 4, o Ysgol Nefyn.


Cerddi am yr hen Bry Copyn gan blwyddyn 4, Ysgol Nefyn

Croen fel gwallt o wair yn saethu i fyny i’r awyr,

Coesau nydwyddau tenau

Yn cropian fel fflamiau

Ar hyd y carped brown.

Jimnast ydio

Yn rowlio,

Cyrlio,

Troi drosodd,

Symud o le i le.

Welai moi lygaid o

Ond mae O yn fy ngweld I!

Gwe siap hecsagon yw ei dý a'i dai

Sydd yng ngorneli ac uwch ben y piano

Hen grwydryn a Robin Busnas ydio –

Pry Copyn

                Rhys Tudur.

------------------------------------------------------

 

Dwy lygaid fel pelen fawr

A dotyn du yn y canol.

Bol crwn fel Bec Bîns,

Dannedd morgrug yn cosi

Cosi

Cosi.

Gwyneb tramp

Sydd gan yr hen bry cop.

Yr hen bry cop…

Mae mam yn chwifio

Cadach -

Yn ei ddal

Ac allan a fo

Druan o’r hen bry copyn.

                 Glyn Owain Jones

------------------------------------------------------

Mae

Ei gorff fel pel rygbi

Tomatos yw ei lygaid

Ac mae ei ben fel eirin gwlanog

Cyfrwys fel llwynog yn dal ei brae.

Coesau fel gwellt yn yr ardd

Mae ei bigiad fel pin yn

Pigo..pigo…pigo

Cerdd siap gwe gan Gethin Jones.