Newid
Ar wely'r afon y dwr gwyllt yn brysio dros y cerrig man,
Yn splashio fel tonnau'r mor,
Yn rashio i gyrraedd y lan.
Y cerrig yn ymestyn o'r dwr yn ddewr,
Fel milwyr llym yn syllu,
Yn gwarchod rhag y lladron erchyll.
A'r tonnau bychain yn crychu arwynebedd y dwr,
Yr afon glir yn llifo'n loyw a chwim.
Pobl ar y bont mor falch o gael mynd drosti,
Waliau cadarn yn sefyll yn llonydd,
Bwa y bont fel ceg ogof dywyll ar ei phen ei hun,
Erydiad y cen ar y garreg lwyd gan y tywydd blin.
Bariau efydd yn rhydu ers amser maith.
Michelle,
Helen a Kirsten
|