Nôl..

Stori gan ddisgyblion Blwyddyn 4 a 5, Ysgol Esceifiog.


Cist Sion Edward

Roedd Sam wedi blino’n lan ar ôl teithio o Lerpwl yn y bws chwyslyd. O’r diwedd roedd wedi cyrraedd awyr iach Glan Traeth. Roedd yr ysgol wedi cau am wyliau’r haf ac yntau wedi edrych ymlaen cymaint am gael dod i aros efo’i nain. Edrychai ymlaen at ei gweld a gwyddai y câi groeso anhygoel.

"Tyrd i mewn ‘ngwas i," meddai nain wrth glywed swn ei draed wrth y drws. Roedd hi wedi bod yn sbecian fel tylluan ers meitin yn y ffenest ac ar bigau’r drain yn aros amdano.

"Gest ti daith go lew? Wyt ti eisiau bwyd?"

Eisteddodd Sam wrth y bwrdd bach wrth y ffenestr. Roedd nain wedi gwneud digon o frechdanau i fwydo cannoedd ac ar ganol y bwrdd roedd clamp o deisen siocled flasus! Bwytaodd Sam tra roedd nain yn ei holi’n dwll. Drwy’r ffenestr gallai weld y môr yn sgleinio fel gwydr o’i flaen. Roedd y twyni tywod yn gorwedd yn fryniau melyn ac adfail yr eglwys fel broc môr ymhen draw’r traeth. Yn sydyn daeth cnoc ar y drws.

"Helo, Mrs Parri. Manon a Lowri sydd yma!"

"Dewch i mewn genod bach" meddai nain yn groesawus.

"Steddwch. Gymerwch chi ddarn o deisen?"

Rhoddodd Manon y bocs neges ar y llawr a rhoddodd Lowri y papur newydd ar ymyl y bwrdd. Roedd Sam yn falch iawn o’u gweld. Gwyddai y buasai digon o’i hoff bethau da yn y bocs neges gan mai eu mam a’u tad oedd yn cadw’r siop leol ac roeddent yn ffrindiau mawr efo’u nain.

Mae’r deisen yn fendigedig Mrs Parri. Diolch yn fawr iawn."

"Wel, diolch i chi genod bach am eich trafferth."

"Pam na ddei di draw heno, Sam?" meddai Manon yn obeithiol.

"Mae Tomos a Llion am alw acw tua saith o’r gloch."

"Rydan ni am drefnu beth i’w wneud ‘fory" ategodd Lowri.

Edrychodd Manon yn flin ar ei chwaer fach am feiddio sôn am eu cynlluniau o flaen nain Sam. Gwenodd nain.

"Brysia di i ddadbacio dy bethau a waeth i ti fynd efo Manon a Lowri rwan ddim. Mae’n siwr fod gennych lawer o bethau i sgwrsio amdanynt!"

"Tra roedd yn dadbacio fe helpodd y genod nain i olchi llestri a chadw’r bwyd. Rhuthrodd Sam i lawr y grisiau mewn chwinciad chwannen.

Iawn ta, awn ni rwan" meddai, "Wela’i chi amser swper nain!"

"Gwnei mae’n siwr!" chwarddodd ei nain.

* * *

Roedd mam a thad y genod yn brysur fel gwenyn yn y siop pan gyrhaeddodd Llion a Tomos.

"Ewch drwodd hogia" meddai Dei Evans, tad Manon a Lowri, yn frysiog gan edrych ar y ciw o ymwelwyr wrth y cownter. Agorodd Llion y drws i’r parlwr a gwthiodd Tomos o’i flaen. Ar y llawr o flaen y lle tân eisteddai Manon, Lowri a Sam yn chwarae Monopoly.

"’Da chi’n hwyr am gêm hogia" meddai Manon.

"Mi fydd rhaid i ni orffen rwan" meddai Lowri.

"Biti na fuasai rhain yn bres go iawn i mam a ‘nhad fedru prynu ty yng Nglan Traeth!" cwynodd Sam.

"Ti ddim yn hoffi byw yn Lerpwl felly?"gofynnodd Llion. "Mi fuaswn i wrth fy modd yna. Meddylia’r holl bethau sydd i’w gwneud yno!"

"Ia a’r holl siopa hefyd" meddai’r genod fel deuawd.

"Digon hawdd i chi siarad, dydych chi ddim yn gorfod byw yno bob dydd yng nghanol y traffig a’r swn a dim lle i chwarae"!

"O peidiwch a ffraeo!" meddai Tomos, "mi fydd yn rhaid i ni fynd adref yn reit fuan heno. Gwell i ni drafod beth rydym am ei wneud ‘fory."

"Syniad da" ategodd Sam yn bwdlyd braidd.

"Wn i, beth am fynd i hel cregyn ar lan y môr" meddai Manon yn wên o glust i glust.

"Crancod!" atebodd Tomos a golwg ddireidus arno.

Cytunodd pawb i gyfarfod am hanner dydd wrth y llwybr igam ogam a arweiniai i’r traeth o ganol y pentref. Roedd pawb i ofalu am ei becyn bwyd ei hun a phawb i gofio i ddod â bwced a rhaw ar gyfer casglu’r cregyn a’r crancod.

* * *

Safai Llion, Tomos, Manon a Lowri wrth geg y llwybr arweiniai i’r traeth yn aros am Sam.

"Hir pob aros!" meddai Tomos yn ddiamynedd.

Ond o’r diwedd gwelodd y criw Sam yn ceisio rhedeg atynt gan gario bag anferthol yn un llaw a rhaw yn y llaw arall.

Roedd yn chwys domen a’i fochau mor goch â thomato.

"Sori mod i’n hwyr. Nain am fwydo cannoedd eto!" meddai gan gyfeirio at ei fag.

Roedd hi’n ddiwrnod braf a’r haul yn sgleinio ar y môr fel aur. Uwchben roedd y gwylanod yn cylchu yn yr awel ysgafn yn debyg i awyrennau papur. Cerddodd y pump gan sgwrsio a chwerthin i gyfeiriad adfail yr hen eglwys. Gosododd y genod lieiniau ar y tywod melyn gwastad ac estynnodd pawb eu pecynnau bwyd. Tra roeddynt yn bwyta deuai’r gwylanod digywilydd at eu hymyl gan obeithio cael tamaid ganddynt. O’r diwedd, ar ôl cael llond eu boliau, dyma adael y crystiau i’r adar swnllyd a chlirio’r sbwriel yn daclus i’w bagiau.

"Reit ta, beth am i ni fynd i hel crancod?" meddai Tomos gan rwbio ei fol.

"Mae yna ddigon o byllau yn y creigiau rownd y gornel" atebodd Llion.

"Dos di efo nhw, Sam. Arhoswn ni yma i hel cregyn. Gewch chi adael eich bagiau yma," meddai Manon, gan daflu cregyn o siapau amrywiol i’r bwced.

Roedd y creigiau yn llithrig fel sebon a gwymon fel dwylo llysnafog arnynt.

* * *

Casglodd Manon a Lowri lond bwced o gregyn lliwgar. Roedd rhai fel corn maharen, rhai fel gwyntyll ac roedd rhai yn debyg iawn i’r llestri gleision ar ddresel nain.

"Beth am chwilio o dan wyneb y tywod rhag ofn i ni gael hyd i rai gwahanol" meddai Lowri yn awyddus.

"Syniad da, tyrd â rhaw i mi," meddai Manon, "i mi gael tyllu."

Wrth fynd yn îs roedd y tywod yn drwm a gwlyb. Yn sydyn trawodd y rhaw yn erbyn rhywbeth caled.

"O! rydym wedi taro yn erbyn carreg! Ta waeth, beth am chwilio yn y tywod am fwy o gregyn."

Chwalodd Manon y tywod yn ofalus ac wrth wneud bachodd ei modrwy gan wneud swn tincial.

"Aw, mae ‘na rhywbeth metel o dan y tywod!"

"Edrych, mae’n debyg i focs a chadwyn rydlyd amdano," cynhyrfodd Lowri.

Brysiodd y ddwy i balu o’i gwmpas a gyda’u holl nerth fe godwyd y bocs. Cist o bren oedd yna, ac roedd cadwyn amdani a chlo arni.

"Dos i nôl yr hogia" gorchmynnodd Manon.

Rhedodd Lowri a’i gwynt yn ei dwrn. Gwelodd yr hogia’ a gwaeddodd nerth esgyrn ei phen.

"Hogia’, dewch yma! Dewch i weld beth rydym wedi cael hyd iddo!"

Syllodd yr hogia’ am funud cyn sgrialu i lawr y creigiau a rhuthro ar ei hôl. Roedd Lowri yn rhedeg fel y gwynt ac wedi diflannu rownd y gornel. Pan gyrhaeddodd yr hogia’ roedd y ddwy wrthi eu gorau glas gyda rhaw yn ceisio torri’r gadwyn.

"Beth ydy hwn?" gofynnodd Sam allan o wynt.

"Cist! Roedd wedi ei chladdu o dan y tywod" atebodd Manon.

"Mae cadwyn rydlyd amdani ac mae’n anodd ei thorri" ategodd Lowri.

"Ga’i drio," meddai Tomos gan sythu fel milwr.

Gafaelodd yn y rhaw a dechrau waldio fel dyn o’i gof."

"Paid y twpsyn, rhag i ti falu’r gist!" gwylltiodd Llion.

"Mae gen i syniad," meddai Manon, "beth am gario’r gist i’r hen adfail? Efallai bod rhywbeth yno y gallwn ei ddefnyddio i dorri’r gadwyn."

Gafaelodd Llion a Tomos yn y gist a’i chario’n ofalus ar draws y tywod. Suddai eu traed i’r tywod ac roedd hi’n anodd dal gafael mewn cist mor drom. Gan bwyll bach cariodd y bechgyn y gist i fyny’r llwybr caregog at sgerbwd yr eglwys. Roedd y drws trwm wedi hen bydru ac yn hongian yn gam. Gwthiodd Sam y drws. Gwichiodd y drws fel llygoden. Heb siw na miw aeth pawb drwyddo. Roedd hi’n oer fel y bedd ac arogl llwydni yn llenwi’r lle. Ar lawr roedd darnau o sbwriel o bob math – llechi, hen goed a phobl wedi gadael hen daclau yn ddigywilydd. Roedd y to wedi disgyn ers talwm a’r adar yn nythu yn mhob twll a chornel.

"Wel sôn am lanast!" sibrydodd Lowri.

"Tydy pobl yn flêr" meddai Manon gan ysgwyd ei phen.

"Edrychwch mae hen far haearn yna. Mi allwn geisio agor clo’r gadwyn hefo hwn" meddai Sam gan afael ynddo cyn i neb arall gael cyfle.

Rhoddodd flaen y bat yn y clo a’i droi. Dim lwc. Rhoddodd gynnig arall. Swn clicio. Llaciodd y gadwyn a llithro i’r llawr fel croen neidr. Yn araf bach agorodd Llion y caead. Rhythai pawb arno….

***

Roedd Sam yn geg agored. Yn y gist roedd cadwyni aur trwchus, mwclis rhuddem mor goch â’r haul yn machlud, a phowlen arian wedi ei cherfio. Yng nghornel y gist roedd papur brown wedi ei blygu.

"Edrych! llythyr," ochneidiodd Manon.

Gafaelodd ynddo. Agorodd ef yn ofalus.

"Alla i ddim ei ddeall," meddai, "mae’r ysgrifen yn hen ffasiwn!"

Syllodd y plant arno ac wrth syllu teimlai pawb yn benysgafn. Daeth sðn rhyfedd i’w clustiau – swn sibrwd. Daeth yn gliriach.

"Fi piau’r trysor, ond fedra’i ddim ei gadw bellach!"

"Pwy sydd yna?" gofynnodd Manon yn ofnus.

"Sion Edward. Roeddwn yn arfer byw yn Rhestai’r Môr ac yn bysgotwr wrth fy ngwaith. Un diwrnod dryllwyd llong ar y creigiau. Chwiliwch am yr hanes….1849….

Trodd Manon rownd. Doedd neb yno. Dim ond adfail gwag a swn y môr.

"Glywsoch chi’r llais?" meddai.

"Pa lais?" holodd Lowri.

"Beth ddywedodd o?" gofynnodd yr hogia’.

Adroddodd Manon y stori.

"Does ond un peth amdani. Mynd i holi yn y llyfrgell am yr hanes!" meddai pan oedd y lleill yn amau.

Gafaelodd y bechgyn yn y gist. Rhoddodd Lowri liain drosti ac yn ofalus iawn aethant am Rhestai’r Môr.

* * *

Roedd nain yn methu deall beth oedd yr holl swn.

"Bobl bach," meddai, "roeddwn yn meddwl bod criw o ladron wedi dod i’r ty!"

"Nain! Edrychwch rydym wedi cael hyd i’r gist yma ar y traeth ac mae hi’n llawn o drysorau!" gwaeddodd Sam.

"Ac mae yna lythyr tu mewn, ond mae’r ‘sgrifen yn rhy hen ffasiwn i ni ei ddeall," meddai Lowri.

"Gadewch i mi ei weld," gofynnodd nain. Craffodd nain arno ac wrth ei ddarllen roedd ei hwyneb yn gloywi i gyd.

"Wel! Wel! Yr hen Sion Edward. Roedd y stori’n wir felly!"

"Pa stori nain?"

" Bod yr hen longwr wedi claddu trysor ar y traeth. A wyddoch chi beth mae’r llythyr yn ei ddweud?" gofynnodd nain.

"Beth?" meddai’r plant yn un côr.

"Pwy bynnag sy’n cael hyd iddo fydd yn cael ei gadw!"

Syllodd y plant ar ei gilydd yn gegrwth. Cofiodd Manon am y llais a glywodd yn adfail yr hen eglwys a meddai,

"Beth am ffonio swyddog o’r archifdy i ddod i’w gweld?"

"Syniad da. Cawn wybod gwerth y trysorau efallai," meddai Sam.

"A chael tipyn o’r hanes," ategodd Manon.

Pan ddaeth y swyddog roedd wedi cynhyrfu yn lân.

"Bydd rhaid i mi fynd â’r gist i’r harchwilio," meddai, "yna gwnaf gysylltu â chi i ddweud beth fydd yn digwydd nesaf."

Edrychodd y plant ar y gist yn cael ei chario i’r car ac roeddynt i gyd yn gobeithio……

* * *

Roedd hi bellach yn ddeg o’r gloch y bore a’r Oriel yn llawn dop. Eisteddai Sam yn y tu blaen ar bwys y Maer. Roedd Tomos a Llion ar un ochr iddynt a Manon a Lowri yr ochr arall. O’u blaen roedd y gist a’r cynnwys wedi eu gosod yn daclus ar fwrdd arbennig. Pesychodd swyddog yr Oriel i dynnu sylw’r gynulleidfa.

"Gyfeillion," meddai mewn llais awdurdodol. "Croeso cynnes i Oriel Glan Traeth. Mae heddiw yn ddiwrnod pwysig. Fel y gwyddoch cafwyd hyd i gist werthfawr ar y traeth gan griw o blant lleol. Mae hi’n dyddio yn ôl i 1849 pan fu llong ddrylliad. Ar ôl ymchwilio yn yr archifdy darganfuwyd bod dyn o’r enw Sion Edwards wedi helpu i achub rhai o’r bobl oedd ar y llong ac yn ôl yr hanes, fe gafodd ei ganmol am ei ddewrder. Beth bynnag, yn y gist roedd llythyr gan Sion Edwards. Ynddo, mae’n cyfaddef iddo gadw trysor ond ei fod yn teimlo’n euog am hyn ac felly wedi ei guddio. Pwy bynnag gâi hyd i’r trysor oedd i’w gadw. Pleser gennyf yn awr yw galw ar y Maer i ddod ymlaen os gwelwch yn dda."

Safodd y Maer fel paun.

"Diolch Syr," meddai, "Pleser yw cyflwyno’r trysor yma i Oriel Glan Traeth."

Cymeradwyodd y gynulleidfa gan wneud swn fel carnau ceffyl. Roedd Sam yn wên o glust i glust. Edrychodd ar ei fam a’i dad. Gwyddai Sam y buasai’r arian a gafodd am y trysor yn mynd tuag at brynu ty yng Nglan Traeth. A dyma’r trysor gorau erioed.