Neidio'n
gyffrous i'r cwch aflonydd,
Siacedi achub yn dyn amdanom.
Llygaid tywyll ogofau dyfnion
Yn sbecian yn llechwraidd arnom.
Slefren for fusneslyd islaw
A ninnau wedi'n gludo'n simsan
I'r meinciau fel llongwyr profiadol.
Can wylofus y morloi diog
Yn ein croesawu i'w cartref creigiog.
Llamu'n betrusgar a llawen
I lanfa gadarn Hafn Enlli
Ac yn ol
canrif i'r hen Gymru.