Nôl..

Ysgrifenwyd y darn hwn gan Sarah  o Ysgol Llanbedrgoch.


Y Bocs

Mae bocs yng nghornel yr atic,
A’r "THIS WAY UP" yn pwyntio i lawr.
Mae rhwng cylchgronau fy Wncl Dic,
A brwsh i ‘sgubo’r llawr.
Roedd unwaith yn focs i Satan
(model o geffyl gefais i)
Fe ddaeth un bore Sadwrn,
Yn anrheg arbennig i mi.

Unwaith bu’n roced i Rhys fy mrawd,
Ac yn gwt i anifeiliaid Elen.
Ond yna cafodd mam rhyw anffawd,
Syrthiodd tros y bocs ar ei phen.
Felly bellach mwy o gylchgronau Wncl Dic,
Sydd yn y bocs yn awr.
Mae’r bocs yng nghornel yr atic,
A’r "THIS WAY UP" yn pwyntio i lawr.