Lliwiau
Gwelaf friallu melyn,
Hoff flodyn fy nain,
Fy hoff flodyn i,
Sy'n fy ngwneud yn hapus a thrist,
O achos hiraeth,
Yn fy atgoffa o ddyddiau hapus.
Gwelaf rosyn coch,
Sy'n 'fatgoffa o fy moch,
O'r ddraig gadarn ar faner Cymru,
Ac o'r ceir coch sydd yn gyrru,
Coch fy hoff liw i!
Cwelaf fy nghi
mewn coler las wrth redeg ras,
Yn rhedeg am oriau,
Sy'n 'fatgoffa o liw fy siwmper ysgol,
Ie! Yr ysgol orau!!!!
Mae gwyn yn liw bach ysgafn,
Fel eira esmwyth, dyfn mewn hafn,
A'r robin gwyn, a welais yn y papur!
A gwallt claerwyn Mr Tudur!!
Lowri |