Y Gansen Wiail
Roeddwn i yn cerdded i'r ysgol yn araf iawn heddiw oherwydd roeddwn yn ofni'r ysgol
newydd.Roedd fy mrawd mawr wedi dweud wrthyf fod gan yr athrawon gansen a'u bod nhw'n curo
chi os ydych chi'n siarad Saesneg! Dydw i ddim yn gwybod gair o Gymraeg, a dyma fi yn mynd
i ysgol lle dydw i ddim yn cael siarad Saesneg, dim ond Cymraeg.
Cerddais i'r iard, ac roedd yr iard yn blaen iawn, ac roedd pawb yn sefyll yno yn fy
ngwylio. Ar ol rhyw bum munud gwelais fy mrawd. Yn wirion iawn dywedais "Hello John.
Please can I play with you?" Clywodd y plant ar yr iard , a synodd pawb. Ar ol dau
funud cerddodd athro allan drwy'r drws a rhoddodd ddarn o bren, efo E.N. arno a cortyn o'i
gwmpas, a'i roi o gwmpas fy ngwddw. Gwyddwn rwan fy mod yn mynd i gael cansen ac roedd
gennyf ofn go iawn.
Canodd y gloch law a cherddodd pawb at y rhesi. Roedd pawb yn sefyll yn syth fel mewn
llun. Cerddodd y dosbarth ucha' i fewn gyntaf.Roedd hi'n amser i ni fynd i mewn. Cerddais
i mewn hefo fy mhen yn uchel. Cerddais i fy nosbarth, eisteddais i lawr yn ymyl hogyn
efo'i wallt du wedi ei wlychu a'i gribo ganwaith, llygaid brown, trwyn smwt a dannedd
taclus iawn.
"Rwan 'te pwy sy'n gallu siarad Cymraeg?" gofynnodd yr athro.
Doeddwn i ddim yn deall dim gair. Doedd neb wedi rhoi ei law i fyny,
"Wel, mae'n rhaid i chi ddysgu rhifau" dywedodd yr athro. Yn gyntaf dechreuodd
sôn am rifau.
"Dywedwch un" dywedodd yr athro. Roedden ni i gyd wedi dweud "UN!". Ar
ol hynny aeth y gloch llaw. Cerddais allan yn araf. Gwelais rhywun yn chwarae hefo cylch a
bachyn. Roeddwn yn meddwl mae bachgen o'n dosbarth ni oedd o. Roedd ganddo wallt melyn a
thrwyn hir, gwisgai ddillad du o'r top i'r gwaelod fel brenhines Victoria! Trwy amser
chwarae sefais yng nghornel yr iard ar ben fy hun. Roedd John yn chwarae hefo'r plant
mawr.
Canodd y gloch llaw a cherddodd pawb i'r llinellau. Tro yma, ni oedd yn mynd i mewn
gyntaf. Cerddais i mewn yn dalsyth wrth basio'r athrawon. Eisteddais i lawr yn fy sedd a
tynnais fy llyfr sillafu allan, ac arhosais am yr athro i ddod yn ôl. Cyrhaeddodd ar ôl
rhyw funud a dechreuom ymarfer sillafu, un,dau,tri a pedwar.
Doedd neb wedi cael nhw gyd yn iawn ond cefais un a dau a tri yn iawn ond sillafais pedwar
fel yma:- pydwu. Ar ôl hynny roedden yn gorfod sgwennu stori amd y ganrif nesa'.
Sgwennais nad oedd na ddim cansen na `r English Not yn yr ysgol yn y ganrif nesa' a hefyd
y byddai 'na beiriannau lle y gellir sgwennu efo nhw, a hefyd ffeindio allan gwybodaeth a
chwarae gemau.
Roeddwn i yn ffrindiau da hefo John erbyn hynny, a pan oedd John bron a gorffen, blotiodd
ei waith! Edrychodd John arna'i yn ofnus iawn; yn sydyn newidiais nhw rownd a rwan roedd
gwaith John gen i ac un fi gan John (hefo blot arno). Roedd yr athro yn cerdded o gwmpas
pawb, a phan gyrhaeddodd fi gwaeddodd ar dop ei lais,
"Beth ydych chi wedi ei 'neud? Dewch hefo." Tynnodd yr athro y gansen o 'i ddesg
a gafalaelodd ynddo. Roeddwn yn crynu fel deilen. Tynnodd yr athro o yn ol hefo grym
ofnadwy a slamiodd y gansen i lawr. Ceuais fy llygaid mor dynn ag y medrwn, hitiodd fy
llaw. Roeddwn i eisiau gweiddi dros bob man, ond gwyddwn pe byddwn yn gweiddi, fe wnawn i
gael un arall. Roeddwn yn gallu gweld yr olwg euog ar wyneb John. Roedd y boen yn
annioddefol. Roedd yna hoel ofnadwy o fawr ar fy llaw, ac roedd o'n ddwfn iawn, iawn.
Roedd yr E.N. yn mynd ar fy nerfau i erbyn hyn; a wedyn cofiais.......y buaswn yn cael y
gansen am
hynny hefyd! Roedd fy llaw yn ddiffrwyth ar ol y gansen annifyr ar ddesg yr athro. Yn
lwcus doedd o ddim ar fy llaw dde, y llaw dwi'n ysgrifennu hefo hi. Canodd y gloch ac
roeddwn yn gwybod ei bod yn amser cinio. Cerddais i mewn i'r lle bwyta. Cerddais i mewn
hefo John a dywedodd o,
"Roeddet ti'n ddewr iawn yn gwneud beth wnest ti."
"Dyna beth mae mets yn wneud, "atebais Cerddom i mewn i'r lle cinio ac
eisteddais i lawr wrth y bwrdd yn ymyl John, ac roedd John yn mynd i nol cinio i bawb ar
ochr ni o'r bwrdd. Pan cyrhaeddodd at yr hatch, gofynnodd y ferch iddo "Heia. Ti 'sio
hwn?" Roedd y ferch yn dal pel. Roedd John yn gymysglyd a dywedodd "No".
Clywodd yr athro oedd ar ddyletswydd, a cherddodd i fyny ata' i. Tynnodd yr E.N. oddi
arna'i a rhoddodd o ar John. Cerddodd John ataf gan edrych yn ofnus iawn. Y cinio oedd
pys, cig a moron. Bwytais fy mwyd yn araf, roeddwn i yn falch iawn oherwydd doeddwn i ddim
yn mynd i gael y gansen eto. Roeddwn i wedi gorffen a chododd John fy mhlat a cherddodd at
yr hatch arall i roi y platiau yn ol. Ar ol y ffrwyth i bwdin cerddom allan mewn rhes syth
a thaclus. Y peth mwyaf y
sylwais arno amser cinio, oedd fod pawb yn ddistaw iawn a neb yn siarad. Roedd yr ysgol
yma'n wirion oherwydd roedd yn Lloegr, ond roedd pawb yn gorfod siarad iaith
Cymru(Cymraeg).
Eisteddais lawr yn fy lle a cerddodd yr athro i mewn. " Pnawn ma, dan ni'n mynd i
ddysgu geiriau fel, helo, dywedwch helo ."
"Helooo" Trwy'r pnawn yna, dysgais saith gair:- Helo, Bore da, Nos da, Yndw,
nacdw, Cefais , Ysgol. Roedd hi'n bum munud cyn i`r ysgol orffen a gofynnodd yr athro
"Pwy sy'n gwisgo'r ENGLISH NOT ?" Rhoddodd John ei law i fyny, gofynnodd yr
athro i John ddod i fyny i gael y gansen. Ceuais fy llygaid a
chlywais "glec". Roedd llygaid John yn goch. Canodd y gloch , a cherddasom ni'n
dau allan o'r ysgol. Pan oeddem ni yn bell o'r ysgol, torrodd John ei galon , a dechreuodd
grio .
Am sialens ydi hyn yn mynd i fod i ni! meddyliais yn dawel, wrth gyd gerdded hefo John yn
ôl adre.
Kieran |