Y Llygoden
Un noson fe glywais swn crafu,
Swn ni chlywais erioed o'r blaen,
Ni allwn gysgu'r un winc hefo'r swn,
A daliodd fynd ymlaen ag ymlaen.
Yna fe welais dau lygad yn sgleinio,
Trwyn bach smwt a cheg fach goch,
Gwelais gynffon yn chwifio'n ôl ac ymlaen,
A chlustiau bach pinc fel rhai moch!
Yn sydyn rhedodd i fyny fy ngwely,
Sgrechiais, a neidiais i ffwrdd,
Chwiliais yn sydyn am le i guddio,
"O ia, o dan y bwrdd!"
Sara |