|
Dathlu'r Mileniwm
Mileniwm, Mileniwm
Partio, Partio, Partio
Drwy'r Byd
A dim llawer o son am Grist!
Dathlu, Dathlu, Dathlu,
Tân gwyllt yn Llundain a'r Tafwys ar dân,
Twr Paris yn goleuo
A Wellington yn ffrwydro-
Oren, coch,
gwyrdd a phiws
Yn goleuo'r awyr ddu
Dan glecian a ffrwydro.
A dim llawer o son am Grist,
Wel am drist.
Dawnsio, dawnsio,dawnsio
A'r "Dome" yn Llundain yn orlawn
Ond nid yw'r Olwyn fawr yn troi!
Gwariwyd ffortiwn ar dân gwyllt a dathlu
Oedd o werth o?
Gwastraffu arian ar lol wirion
A'r trydydd Byd yn llwgu!
Dim llawer o son am Grist.
Dim son am Ei benblwydd,
Dim ond partio, dathlu, dawnsio ac yfed
Oedd i gyd werth o?
Mae'r ugeinfed ganrif wedi gorffen,
A'r ail fileniwm.
Gobeithio y byddwn yn gallach yn y drydedd,
O ia,.....a gyda llaw,
PENBLWYDD HAPUS IESU GRIST!
|