Nôl..

Ysgrifenwyd y stori hon gan Blwyddyn 5 o Ysgol Gynradd Amlwch.

 
Cwffio am waed 3

"Hwre," gwaeddodd Huw nerth ei ben. "Dwi’n gallu fforddio’r gem Cwffio am Waed 3 rwan oherwydd fy mod i wedi hel digon o bres."

Roedd Huw newydd gael ei ddegfed penblwydd ac roedd ganddo bres yn llosgi yn ei boced. Bachgen hunanol oedd Huw gyda gwallt coch cyrliog fel tan gwyllt, llygaid glas tywyll ac roedd o’n dew fel donyt. Roedd o’n anfodlon rhannu dim gyda’i chwaer Sian. Roeddynt yn cwffio fel mwnciod am bethau bach gwirion ac roedd eu rhieni wedi cael llond bol arnyn nhw.

Yn sydyn, clywodd Huw lais ffyrnig yn dod o’r gegin. "Os wyt ti isio’r gem ‘na, mae’n well i chdi ddod lawr y munud yma!" Rhedodd Huw i lawr y grisiau fel milgi ar ôl cwningen. Sefai Mam fel delw wrth y drws yn barod i fynd i’r dref.

"Does gena i ddim trwy’r dydd i ddisgwyl amdanat ti," bloeddiodd Mam yn wallgo’ bost.

Sleifiodd Huw i’r car yn gyflym rhag ofn i’w fam newid ei meddwl. Dechreuon nhw ar eu taith i’r siop gyda Huw yn hymian canu ‘Today’s the day’. Ar ôl deng munud o hyn dechreuodd Huw swnian ar ei fam, "Mam, faint o filltiroedd sy’ ‘na eto?"

"Paid a swnian wir," atebodd Mam yn chwyrn.

Cyrhaeddon nhw’r dref ac roedd Huw yn teimlo’n gyffrous fel ci newydd gael asgwrn. Pan welodd o’r arwydd Dixons rhedodd nerth ei draed i mewn i’r siop at y gemau cyfrifiadur. Edrychodd ar bob un wan jac ohonyn nhw yn syn ac yn sydyn sylwodd ar un gêm arbennig – gêm newydd y flwyddyn Cwffio am Waed 3.

Gafaelodd yn y gêm a rhedodd at y ddesg dalu gyda’i bres yn ei law. "Dwi’n gobeithio nad wyt ti wedi prynu gêm rhy ddychrynllyd," dywedodd Mam.

"O na… na, Mam. Mi fyddwn i’n cael hunllefau."

Doedd Mam ddim yn sylweddoli fod Huw yn dweud c’lwyddau ond roedd Huw bron a marw eisiau’r gem yma felly roedd rhaid iddo fo ddweud hyn. Llusgodd Huw ei fam allan o’r siop yn teimlo’n euog iawn a chychwynnon nhw at y car heb ddweud gair.

* * * * *

Pan gyrhaeddon nhw adref neidiodd Huw allan o’r car a charlamu i fyny’r grisiau i’w lofft. Tynnodd y gem o’i chas, agorodd y disg-yrrwr a gwthiodd y gem i fol y cyfrifiadur. Teipiodd enw’r gêm yn grynedig CWFFIO AM WAED 3. Pwysodd y botwm i mewn i’r gêm. Daeth dewis o chwech chwarewr ar y sgrin a gwelodd Huw wyneb cyfarwydd ar y gwaelod. Sylweddolodd mai ei wyneb O oedd yn y bocs ar y sgrin. Roedd Huw yn teimlo’n nerfus iawn.

"Beth wnaiff ddigwydd os pwysa i’r botwm yna?" meddyliodd.

"Wel, mi dria i beth bynnag," meddai.

Cliciodd y llygoden ar ei lun. Yn sydyn, teimlodd yn benysgafn ac yn boeth. Edrychodd ar ei ddwylo a’i goesau a sylwodd eu bod nhw’n newid eu lliw yn araf. Gwelodd eu bod yn troi o binc i las, o las i wyrdd, o wyrdd i felyn…

Dechreuodd grynu fel glaswellt mewn storm. Teimlodd ei hun yn codi o’i sêt ac yn cael ei sugno i stumog y cyfrifiadur.

Glaniodd Huw mewn jyngl dywyll, llaith, annifyr. Llenwyd ei glustiau a swn anhygoel anifeiliaid, adar a dwr. Cafodd Huw sioc o weld ei fod yn gwisgo dillad cwffio metal sgleiniog ac yn ei law roedd arf dychrynllyd. O gornel ei lygaid gwelodd rywbeth yn symud. Trodd i weld byddin o estrysiaid doniol yn gwisgo sbectol haul a chap pig. Roeddent yn dod amdano.

"O, ‘dwi’n rhy ifanc i farw," meddai Huw gan gogio crio. Ond pan welodd Huw adenydd metal a phigau miniog yr estrysiaid dechreuodd redeg, ond roedd yr estrysiaid yn gyflymach o lawer nag o.

Teimlodd bigyn un ohonynt ar ei ben ôl. Neidiodd Huw gan sgrechian yn boenus. Gafaelodd Huw yn ei arf a tharo’r estrys agosaf ar ei ben a’i ladd yn syth bin. Roedd gwaed yn llifo fel afon. Edrychodd yr estrysiaid eraill at Huw yn ddieflig ac roeddynt yn barod i ddial. Chwipient eu hadenydd metalaidd yn wyllt a symudent eu pennau yn ôl ac ymlaen. Gwelodd Huw fod yn rhaid iddo ddianc. Ond, unwaith eto roeddent wrth ei gwt. Roedd un estrys bob ochr iddo. Anelodd Huw ei arf dychrynllyd atynt a chipio pennau’r ddau i ffwrdd fel bwled.

* * * * *

"Huw…Huw ty’d i gael te." gwaeddodd Mam. Ond doedd dim ateb o’r llofft.

"Fy nhro i ydy hi i fynd ar y cyfrifiadur rwan. Dydy Huw byth yn gadael i fi chwarae arno," meddai Sian yn gynddeiriog.

"Dos i’w nol o Sian," dywedodd Mam.

Rhedodd Sian i fyny’r grisiau a rhuthro i mewn i lofft Huw. Sylweddolodd hi fod y cyfrifiadur ymlaen ond doedd Huw ddim yno. Gwaeddodd ar ei mham.

" Mae Huw wedi diflannu Mam!"

"Paid a bod yn wirion, mae hynny’n amhosib," meddai Mam.

"Dowch i weld te."

Pan gyrhaeddodd hi’r llofft gwelodd bod Sian yn iawn, doedd dim golwg o Huw ond roedd cas plastig y gêm newydd ar y ddesg wrth y cyfrifiadur.

"Lle mae o, dydy’r ddisg ddim yn y cas ac mae’r cyfrifiadur ymlaen," meddai Mam yn boenus.

"Dyma fy nghyfle i," meddai Sian yn slei. Roedd hi eisiau gwybod pa gêm oedd Huw wedi’i brynu. Aeth yn syth i eistedd wrth y cyfrifiadur a chliciodd ar ‘Chwaraewr Newydd’. Ar y sgrin roedd coed mawr tal a llawer o anifeiliaid. Estrysiaid oedd llawer ohonyn nhw ac roeddent yn edrych yn ddoniol ond wrth edrych yn ofalus gwelodd Sian eu bod nhw yn ddychrynllyd iawn.

"O Mam, dewch i weld hon, mae y gêm yma’n ddychrynllyd ofnadwy," meddai Sian.

"Be’, d’wedodd Huw doedd hi ddim." meddai Mam yn syn.

Yn sydyn, gwelodd Mam a Sian wyneb cyfarwydd ar y sgrin… wyneb HUW! Edrychai’r ddwy ar Huw yn geg agored.

"Sut goblyn disgwyddodd hyn?" gofynodd Mam yn bryderus.

Wrth edrych ar fotymau’r cyfirifiadur gwelodd Sian fotwm bach yn dweud DYCHWELYD.

"Ysgwn i," dywedodd wrthi ei hun, "os pwysa i y botwm yma fydd Huw yn dod yn ôl? Mae’n werth trio beth bynnag," meddai Sian.

Pwysodd y botwm yn obeithiol. Y munud nesaf roedd cwmwl o fwg yn dod allan o fol y cyfrifiadur ac roedd hi’n oer ofnadwy yn y llofft. Dechreuodd corwynt chwythu ac wedyn swn ffrwydro mawr. Roedd Mam a Sian wedi dychryn yn ddifrifol. Gwelson nhw fod y corwynt yn dechrau diflannu ond yn ei le traed,

coesau,

bol,

breichiau,

a phen

yn dechrau ymddangos.

"H..H..Huw, lle wyt ti wedi bod?" gofynnodd Mam wedi dychryn.

"W’nest ti fwynhau chwarae gem newydd?" gofynnodd Sian yn sbeitlyd.

"Na…ddo, ‘dwi byth eisiau chwarae’r gem yna eto," dywedodd Huw yn bendant.

"O, gêm ddychrynllyd oedd hi, ie?" gofynnodd Mam.

"Wel…ie," meddai Huw yn edifeiriol.

 

Stori gan :

Carys

Bethan

Anna

Stephanie

Christopher

Luke

Matthew

Donna

Nicola

Joseph

Philip

Brian

Rhys

Matthew

Marc

Nia

Angharad

Andrew

Claire

Emma

Sara

Daniel

Stacey