Nôl..

Ysgrifenwyd y gerdd hon gan Mali o Llanystumdwy.

Rwy’n Cau Fy Llygadau

Rwy’n cau fy llygadau
Ac mae’r afon yn dweud
Pam fod rhaid i bobol fy llygru i
Dydw i ddim yn hoffi bwyd fel hynny,
Pam na ddoi di i neidio gyda fi
Gawn ni lot o hwyl a sbri,
Teimla fy ngwallt gwyn, gwyn
Sy’n chwifio’n y dwr oer, oer…
Afon sut wyt ti mor oer ond croesawgar?
Dwi ddim yn gwybod, felly mae’r afonydd
Oes wir, oes wir, tyrd, awn ni i weld crocodeil
Mae o yn nabod bob afon yng Nghymru.
Helo be ydych chi yn da yma?
Dweud wrthym am rhai o’r afonydd yr ydych yn ‘nabod
Mae’r afon Hafren yn garedig iawn
Ond mae afon Darron yn gas ac yn slei.
Dwi ddim yn hoffi pysgod, beth amdanat ti afon?
STOP! Dwi wedi laru ar gymaint o gwestiynnau
Dwi’n mynd adre i’r môr….

Mali.G.J