|
Y Lôn Wlyb
Lôn yw’r afon
Lôn i bysgod
Lôn wlyb
Ond un dda.
Mae’r cerrig yn bentrefi
Mae’r creigiau yn drefi
Mae’r gro yn westai
Mae rhaeadrau yn draffyrdd.
Brithyll wedi marw mewn
damwain benben
Efo brithyll mwy
Yng nghanol y lôn rhwng dau bentra.
Y sêt yn llyn sêt
Yn le i bysgod eistedd
Dros y pontydd mae’r byd
Yn camu dros y pysgod.
O’r diwedd mae’r lôn wedi cyrraedd y môr
A mae’r pysgod yn gwasgaru ar hyd y byd.
Meilyr Hamilton
|