|
Afon Dwyfor
Un prynhawn braf ym mis
Mehefin,
Es am dro i weld fy nghynefin.
Treuliais amser ar lan Dwyfor,
A’i dilyn i lawr ger y môr.
Roedd yna lindys ar y ddeilen,
Yn bwyta yn ei hamser hamdden.
A lliw du fel y gofod arni
A planedau bob lliw drosti.
Edrychai’r afon fel llyn llefrith,
Ac mewn mannau rhuai fel melltith
Pysgod arian yn nofio’n hapus,
Fel seren wib ar noson lwcus.
Mi welais hefyd benglog morlo,
Nid oedd o heddiw yn torheulo.
Dannedd miniog fel blaidd oedd ganddo,
Roedd yn drist ei weld o yno.
Wennol bach yn hedfan drwy'r coed,
Fel y wennol cyntaf erioed.
Yr afon fel ceffylau gwyllt gwyn
Yn rhuthro a llamu o lyn i lyn.
Gwelais fysedd cwn un bore
Run fath a chlychau ar eu gore.
Er na chlywais yr un nodyn,
Dim ond, mwmian mwyn y gwenyn.
A dyma ni ar ben ein taith,
Wedi cerdded am oriau maith
Gwelais yr holl ryfeddodau byw
Diolch i ti ein harglwydd Dduw.
Elin Jones
|