Nôl..

Ysgrifennodd Rachelle o Ysgol Treferthyr y gerdd hon fel rhan o'Prosiect Afon Dwyfor'


Y Daith

Yn y dechra’, dim ond wy bach ydi hi
Yn fas, ac yn fach,yn ara a distaw.
Ond mwya’ sydyn, mae’r wy yn deor, ac allan
O’r wy, mae’r neidr fach yn dod.

Ei chroen yn arian, mae’r neidr yn hisian,
Ac yn llithro, ac yn sydyn,
Mae’r neidr yn ddistawach,
Yn mynd yn slei,
Ac wedyn yn rhuthro.

Mae bysedd y cwn yn ysgwyd fel clychau,
Mae’r canghennau’n symud o’r ffordd.
Mae’r neidr wedi dal ei hysglyfaeth.


Toc, dyna’r afon fel llygoden fach
Yn sibrwd yn dawel,
Ac wedyn, wrth fynd dros y creigiau,
Mae hi fel llew yn rhuo.


Ar ei thaith i’r môr, mae hi’n tyfu’n fwy
Ac yn mynd yn gynt ac yn gynt fel trên
Nes cyrraedd y môr, yn neidr anferth.


Rachelle.