Nôl..

Ysgrifennodd Eifion a Gareth o Ysgol Treferthyr y gerdd hon fel rhan o
'Prosiect Afon Dwyfor'

 

I’r Môr

Rwyf yn byw ar lan yr afon
A fy enwi’di Eifion.
Rwyf wrth fy modd yn gweld y samon
Sydd yn neidio yn fy nghalon.

Mor dywyll ydi’r goedwig fawr
A’i thraed hi’n gadarn ar y llawr
Mae’r goedwig fel cawr.

Mae’na fil o adar gwirion
Sydd yn siarad gyda’r afon
"Lle mynd? Lle mynd?" meddan nhw fel cor,
A’r afon yn ateb:"i’r môr, môr, môr!