Nôl..

Ysgrifennodd Lois  o Ysgol Treferthyr y gerdd hon fel rhan o
'Prosiect Afon Dwyfor'

 

Yr esgid unig!

Esgid troed chwith unig yn mynd ar daith,
Ar daith I weld y byd.
Mynd I lawr afon,
Yn gorwedd ar ei hyd.


Pasio’r blodau lliwgar, ar coed mawr tal,
Wrth gael ei chario gan y tonnau gwyn.
Cerrig anferthol a’r gwair mor wyrdd,
Plant bach yn chwarae, a hen pobol gyda ffyn.


Esgid frown efo creiau coch,
Yn hyrddio dros y creigiau.
Rownd y gornel, o dan y bont,
A pasio’r siop gwerthu beiciau.


Mae’r môr mewn golwg,
Hwre! Hwre! Hwre!
Ond pan mae hi’n cyrraedd
Dyma’r esgid droed dde!