Nôl..

Ysgrifennodd Dosbarth Cymraeg 5P (2)  o Ysgol Llanfair Pwll y gerdd hon


Maggie Dooley

Yr hen Maggie Dooley,

Bach fel buwch goch gota,

Hen fel beibl,

Araf fel crwban.

Yr hen Maggie Dooley,

Anifail unig,

Llygaid fel llygoden,

Cynffon o gathod.

Yr hen Maggie Dooley,

Unig fel cornel,

Fel enfys -

Haul a glaw.

Yr hen Maggie Dooley,

Clen fel Sion Corn,

Caredig fel Nain,

Cymylau du o'i hamgylch.

Yr hen Maggie Dooley,

Fel gwennol -

Yn ôl ac ymlaen i'r parc.

Fel Mam i'r cathod.

Yr hen Maggie Dooley,

Yn bwydo'r cathod.

Mae nhw ei hangen hi,

A hi ei hangen nhw.

Y gorau yn y byd.