Y FFAIR.
Roedd goleuadau lliwgar y ffair yn disgleirio yn y
tywyllwch. Roedd Emma yn cerdded o dy ei ffrind. Yr oedd ei mham ai thad
wedi dweud wrthi am beidio mynd ir ffair ond roedd Emma yn clywed pobl yn
sgrechian ac yn cael hwyl. Felly, roedd rhaid i Emma fynd ir ffair.
Talodd un bunt ir ddynes ac i ffwrdd a hi. Yn gyntaf,
aeth ar y Dwmbwr Dambar a wedyn aeth ar y Chwrligwgan. Roedd hin naw or
gloch ac yn amser i fynd adref.
Yn sydyn, clywodd hi swn. Rwan, roedd Emma ofn. Aeth
at y lôn fawr. Clywodd y sn eto. Arhosodd Emma ar y palmant. Yn sydyn, dyma ddyn yn dod
ati. Plismon y pentref oedd o.
"Be wyt ti yn da allan yr amser yma or nos,
Emma?," gofynnodd y plismon.
"O, maen ddrwg gennyf ond roeddwn eisiau
mynd ir ffair ai goleuadau lliwgar." meddai Emma.
Dywedodd y plismon wrthi fod ei mham ai thad yn
poenin ofnadwy amdani am ei bod yn hwyr. Dechreuodd Emma grio a rhoddodd y plismon
ei fraich oi chwmpas a dechreuodd y ddau gerdded i dy Emma. Gwelodd Emma ei mham
ai thad yn disgwyl amdani yn y drws. Rhedodd atynt yn crio.
"Maen ddrwg iawn gennyf, Mam a Dad. Wna i byth
aros yn hwyr eto." meddai Emma.
"Ryda ni yn gobeithio dy fod wedi dysgu dy wers,
rwan Emma." meddai ei thad.
"O, do wir, dad." meddai Emma.
Aeth y tri ir ty a thwrwr ffair yn dal i fynd yn
y cefndir.
Nerys |