Ysgrifenwyd  y stori hon gan Lois  o Ysgol y Parc.

Dydd Calan

Codais ar fore Calan rhewllyd dydd Sadwrn 1af Ionawr 1921. Gwisgais fy sgert a’m blows a sanau cynnes a’m esgidiau trymion. Fe wnes i uwd i fi fy hun ac fe lowciais pob tamaid a bron i mi dagu! Cipiais fy mag yn frysiog a’i roi o gwmpas fy ngwddw, heb yn wybod mai bag Mari fy chwaer fach oedd o. Roedd yn amlwg nad oedd Mari na Nia nac Alun wedi codi oherwydd roedd y bwrdd yn daclus!

Yn gyntaf fe es i dy Modryb Margret ac Ewyrth Bob ac fe gefais 6 cheiniog ganddynt. Yna fe es i ymlaen at dy Mam William ac fe gefais ddimai ganddi ac fe es i ymlaen ac ymlaen ac ymlaen gan ganu a chanu a’r bag yn mynd yn drymach ac yn drymach. Erbyn hanner dydd fe wnes i ddechrau cerdded tuag adref ac ar y ffordd fe welais ddynes ifanc gyda bachgen bach a babi. Roeddent yn edrych yn denau, yn garpiog ac yn oer. Fe gerddais tuag atyn nhw ac fe roddais y bara a gefais gan Mr a Mrs Roberts iddyn nhw ac fe ddywedais, " anrheg blwyddyn newydd"

" Diolch", meddai’r ddynes yn swil.

Pan gyrheuddais adref fe dywalltais yr arian ar y bwrdd ac roedd yna 13ceiniog a dimau gennyf.

"Wyt ti wedi gweld bag Mari yn rhywle?"

"O ym, fe wnes i ei gipio ar gam".

"O mae Mari wedi cael dy fag di yn ei le".

Wrth edrych ar yr arian meddyliais fod yna rywun arall yn y byd yn dlotach na ni, na fi hyd yn oed. Y diwrnod wedyn fe es i i’r siop ac fe brynais bâr o esgidiau trymion. O mor lwcus ydw i ynte.