Ysgrifennodd Llinos  o Ysgol Treferthyr y gerdd hon fel rhan o
'Prosiect Afon Dwyfor'

Yr Afon!

Rwyf yn byw ar lan yr afon,
Lle mae’r brithyll bach a’r samon,
Yn gwibio ‘nôl a blaen heb oedi,
Fel y ceir ar lôn Pwllheli.

Rwyf yn byw ar lan yr afon,
Lle mae’r blodau mwya’ tirion,
Bysedd y cwn ar lan y lli,
Yn gafael yn fy nghalon i

Rwyf yn byw ar lan yr afon,
Lle maer adar bychain gwirion,
Yn canu a hedfan gyda’r gwynt
‘Run fath ac yn yr amser gynt.

Rwyf yn byw ar lan yr afon,
Dyna le wrth fodd fy nghalon,
Yr afon wyllt sydd ar ei thaith,
O’r mynydd ers canrifoedd maith.