Ysgrifennodd Dosbarth Blwyddyn 5  o Ysgol Llanfair Pwll y gerdd hon.

MAGGIE DOOLEY

Ti yw dagrau'r glaw ar y ffenestr,
Y cymylau du tameidiog sy'n chwarae mīg yn yr awyr,
Seren yn disgleirio yn nhrymder nos,
A'r gwlith ar y glaswellt.

Ti yw'r bwrdd hynafol, llychlyd gyda'r tyllau pry,
Ti yw golau gwan y gannwyll unig,
Y siwmper wlanog oren sy'n cynhesu teimlad,
Ti yw'r gwyll.

Ti yw'r pysgodyn prysur sy'n nofio'n ei bowlen,
Y rhosyn melyngoch gyda'r petalau crin,
Yr afal cleisiog ar eirin melys,
Ti yw Animal Hospital a Dot Eastenders,
Ti yw Dwynwen Cymru..