Ysgrifennodd blwyddyn tri a phedwar o Ysgol Beuno Sant y gerdd hon.

Gwenno gwallt gwirion

Gwenno gwallt gwirion!
Mynydd o wallt,
Fel coesau pry cop,
Llond het o bryfaid genwair
Gwallt fel platiaid o nwdls
yn rhaffau bler.
Ond mae gan Gwenno
Wên andros o glên.
Hen hogan bach hapus yw
Gwenno.