Ysgrifennodd blwyddyn tri o Ysgol Beuno Sant Y Bala  y gerdd hon.

Plu Eira

Cawod o ser o'r gofod
conffeti bach disglair yn disgyn o'r awyr
Dafnau o gliter
yn glanio yn berlau ar y gwe pry cop.

Pili Pala arian yn chwyrlio.
Dail claer wyn yn hedfan
A throelli.
Petelau gwyn, clychau'r eira.

Cwmwl fel alarch hardd
a'i phlu yn disgyn.
Swigod sebon yn glanio
Llond nef o golomenod meddal,
Darnau bach o wydr yn flanced ar y llawr.
Eira, eira gwyn yn disgyn.