Ysgrifenwyd  y gerdd hon gan Alaw Elin Price, Ysgol Beuno Sant.

DRAW DROS Y DON

Ewyn y mor fel ewyn eillio
Cri'r gwylanod fel wylo Branwen.
Tariannau'r milwyr fel drychau arian.
Saethau fel mellt o'r cymylau.
Gwaywffyn fel dannedd miniog y ddraig goch.
Hwylbreni fel coedwig dywyll.
Bendigeidfran fel mynydd mawr.
Calon Branwen fel cwpan tseina yn torri.
Dim ond alarch aur yn glanio ar afon Alaw.