Ysgrifennodd Chloe  o YsgolBeuno Sant y gerdd hon.

DRAW DROS Y DON.

Ewyn y mor fel conffeti gwyn
pan mae rhywun yn priodi.
Cri'r gwylanod fel sgrech y milwyr.
Tariannau'r milwyr fel slyrch aur yn disgleirio mewn llyn.
Saethau fel dannedd miniog y ddraig goch.
Hwylbreni fel coed tal.
Bendigeidfran fel mynydd mewn llyn.
Calon Branwen fel wy pasg yn torri.
Popeth yn ddistaw, popeth yn llonydd a dim
ond alarch aur ar ôl.