|
Malwoden
Symud yn slo
Ar hyd y fro
Ty caled ar ei chefn
Ond mynd mewn trefn
Bwyd I’r Ffrancwyr
Ond nid i’r pysgotwyr
Cystadlu mewn ras
Neith hi byth gyrraedd mas
Peidio ei sathru
Neu bydd y tywydd yn diflasu
Hen falwoden fach glen
Gobeithio cei fyw yn hen ! |