
Mae'n siwr eich bod i gyd wedi dysgu llawer am ysgrifennu storiau.
Mae'n siwr bod nifer ohonoch wedi ysgrifennu stori hefo partner neu mewn grwp.
Tybed ydach chi wedi ysgrifennu stori hefo plant o ysgolion eraill?
Dyma ichi her!
Sut i fynd ati
Bydd angen dewis o leiaf dair ysgol sydd ar y rhyngrwyd.
Bydd yr ysgol gyntaf yn cychwyn y stori a'i danfon ymlaen ar e-bost i'r ail
ysgol.
Bydd yr ail ysgolion ychwanegu at y stori cyn ei danfon
ymlaen ar e-bost i'r drydydd ysgol i'w chwblhau.
Dylai pob ysgol ysgrifennu tua hanner tudalen, cynnwys un llun (wedi ei
sganio) a chynnwys rhywbeth sydd yn arbennig am eu hardal e.e. gwrachod Llanddona neu
hufen iā Criccieth.
Wedi i'r stori gael ei gorffen danfonwch hi
atom ni ar e-bost ac fe rown ni hi ar y safle i bawb gael ei darllen!
Hwyl ar y sgwennu!!