Dewis Un
  
Er mwyn cael copi o'r pôs cliciwch ar yr icon argraffu sydd ar ben ucha’r sgrin.
  

Nôl i'r Posau

Pa un o'r pedwar ateb yw'r un cywir?


1. Gair sy'n disgrifio rhywun hapus.
a) bythol b) bodlon
c) prydlon ch) pryderus

2. Gair arall am rywbeth sydd yn iawn.
a) anial b) afiach
c) addas ch) atgas

3. Gair croes i rhewi.
a) dadwrdd b) datsain
c) dameg ch) dadmer

4. Enw arall am help.
a) cyhoedd b) cymorth
c) cyffordd ch) cerydd

5. Enw arall am gystadleuaeth.
a) ymryson b) ymadrodd
c) ymgeledd ch) ympryd

6) Gair arall am roi trefn ar bethau.
a) twyllo b) treiglo
c) twymo ch) twtio

7. Gair arall am brynu a gwerthu.
a) maethu b) mathru
c) masnachu ch) mynychu

8. Gair arall am gyfnewid rhywbeth.
a) ffeirio b) ffeindio
c) ffermio ch) ffinio

9. Gair yn golygu rhywbeth gwlyb.
a) llaith b) llaes
c) llwfr ch) llwm

10. Enw arall am dywydd braf.
a) hamdden b) hindda
c) hafan ch) helfa