![]() ![]()
Mae ysgol Pen-y-bryn Bethesda yn agos iawn at galon Brenda Wyn Jones. Yma y daeth i'r ysgol pan yn blentyn ac fe fu yn fyfynagair yma hefyd. Mae plant ysgol Pen-y-bryn wedi bod yn ffodus iawn ei bod mor fodlon dod i drafod ei llyfrau gyda ni. Pan yn sgwennu 'Bwli a Bradwr' roedd yn dod i ddarllen penodau i blant Pen-y-bryn i weld oeddent yn "gweithio". Eleni, mae hi wedi bod yn ymweld eto ac fe gafodd ein dosbarth ni (Glyder) glywed 'drafft' penodau cyntaf ei llyfr diweddaraf. (Mae'n swnio'n dda iawn!) Ar ei hymweliad olaf gyda'n dosbarth ni fe fuom yn ei holi am ei bywyd a'i gwaith - (gwybodaeth yn y ffeil feithioau) Os yw Pen-y-bryn yn agos at galon Brenda Wyn Jones mae Brenda yn agos at ein calonnau ni, mae'n un o'n hoff awduron.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
![]() |
Ysgrifennwyd yr erthygl
hon gan: Gwenllian Dafydd, Carwyn Stokes a Sion Doyle o Ysgol Pen-y-bryn, Bethesda. Ewch i ddarllen adolygiad Llyfr y Mis o Bwli a Bradwr ar Safle Llythrennedd ar y We! |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||