![]() ![]() Dawn Dweud Diddorol ![]() |
|
Michael Harvey yn adrodd ei stori |
Un diwrnod yn Ionawr daeth dyn
or enw Michael Harvey i ysgol Niwbwrch. Roeddwn i yn hoffi Michael achos roedd en defnyddio ei ddwylo ai lais i wneud y storiau yn well. Kayleigh Williams. |
| Un bore daeth dyn o r enw Mr Michael Harvey ir ysgol i ddweud storiau wrthym. Roedd Michael Harvey yn dweud fod sipsi or enw Abraham Wood wedi dweud y storiau yn bell bell yn ol wrth ei deulu pan oeddent yn eistedd o gwmpas tan y gwersyll. Daeth y storiau i lawr o genhedlaeth i genhedlaeth nes y clywodd Michael Harvey hwy a phenderfynodd fynd o gwmpas yn eu hadrodd. Un o fy hoff storiau gan Michael oedd am Jac ar bluen. Ar ddechraur stori roedd Jac yn dlawd ond erbyn y diwedd, hefo help y ceffyl, cafodd briodir dywysoges. Roedd pawb yn gwrando ar Michael ac roedd yn dweud y storiau yn ddiddorol ac yn ddifyr gan ddefnyddio ei lais yn gryf ac yn ddistaw a defnyddio ei ddwylo. Roedd yn dweud y storiau ac nid yn eu darllen. Carwyn |
|