Nôl i'r Silff Lyfrau

John Hywynawdur2.jpg (6762 bytes)
John Hywyn

Yn ddiweddar, daeth John Hywyn i ymweld â ni yn Ysgol Bodorgan.  Doeddan ni ddim yn siwr beth i’w ddisgwyl.  Tydi beirdd ddim yn galw i mewn yn aml.  Pan ddaeth o i mewn roeddem yn falch iawn. Roedd o’n berson cyfeillgar ac yn gwisgo jins.

Wnaeth o ddim sôn llawer amdano’i hun ond mi rydan ni wedi darganfod ei fod yn dod o Gaernarfon yn wreiddiol a’i fod yn byw yn Llandwrog erbyn hyn.  Fe fu yn athro am nifer o flynyddoedd ac yn brifathro ar ysgol Brynaerau ger Pontllyfni.  Mae ganddo fo ddau o blant, Rhys a Nia.  Mae Nia yn y llun hefo fo (er ei bod wedi tyfu erbyn hyn).  Mae o wedi ysgrifennu llawer o’i gerddi ar ei chyfer hi.

Mae o wedi ysgrifennu pob math o farddoniaeth yn cynnwys barddoniaeth ar gyfer plant.  Dyna y buo fo’n sôn amdano hefo ni.  Dyma mae o’n ei ddweud am ei gerddi ar ddechrau’r gyfrol "RHANNU’R HWYL - Cerddi i blant"

"Cerddi? Wel,straeon, a dweud y gwir. Mae pob un yn wir. Dwi un ai wedi gweld neu wedi gwneud popeth sydd ynddyn nhw. Roeddwn i jest â marw eisiau rhannu’r hwyl efo rhywun. Dwi’n meddwl mai straeon gwir ydy’r rhai gorau, bob tro."

Dyma un o’i hoff gerddi, ac un o’n rhai ni:

Grwndi

Grwndi,
pam nad wyt ti’n mynd,
yn mynd fel saeth am y titw a’r robin?

Grwndi,
Pam rwyt ti wedi mynd mor dew,
Mor dew a draenog wedi dychryn?

A Grwndi,
Pam na ddoi di ar ôl
Y llinyn yn fy llaw?

Na. Dim ateb.
Dim ond dal ymlaen i molchi
Pob blewyn du yn sglein.

Ac yna, fore Sadwrn,
ym masged ddillad Mam,
tri llais yn gwichian,
chwe llygad wedi cau.

A grwndi’n gwenu’n gynnes
i ddweud,
‘Wel dyma pam.’

Cawsom gyfle yn ystod ein sesiwn gyda John Hywyn i lunio ein cerddi ein hunain. Gobeithio eich bod yn eu hoffi.
   

Y Sied

Dacw hi
Yng nghornel yr ardd gefn
Sied gerrig taid.
Nid lleni oedd ar ei ffenest
Ond gwe pry cop
Ar y mur, croen,
Lle bu llwynog unwaith.
Golau haul yn sbecian
Trwy'r ffenest,
Llygoden fawr ddu a'i chynffon hir binc
Yn troi yng nghornel y sied,
Yn cuddio rhag dyn
Mewn lle distaw, unig du.
I mewn i'r sied
Cerdda bachgen
Gyda trainers coch, distaw
Yn edrych am wyallt taid.
Sefyll yn syth.
Sgrechian a rhedeg.
Stori arall i'r cerrig llwyd
ei chofio.

Fy Nghartref i

Cynnes, braf a thwt yw ty ni.
Yno yn byw mae mam, dad, Shane, Shannon a fi.
Mae mam yn gwneud bwyd neis
fel chips a pwdin reis.
Cysgu mewn gwely cyfforddus
Yna sgrechian mam codwch!
Mae pawb yn hapus iawn yn ty ni.

Liam Lock

Ofn

Mae arnai ofn
Codi yn y nos
ofn cael fy nal
Gan y bwgan tal.

Mae'n arnai i ofn
y glaw yn taro
y ffenest trwy
Dydd a nos.

Mae arnai ofn
swn yn y nos
ofn swn y bwgan
ofn synau eraill y nos.

Mae arna i ofn
cysgu yn y nos
ofn codi a gweld bwgan
wrth ymyl y drws.

Glenys Rowlands

Y Gwcw

Nid yw'r gwcw'n nythu
Lleidr ydi hi.
Mae'n dwyn nyth aderyn arall
Yn gartref i'w chywion hi.

Mae'r gwcw'n rhy ddiog
I wneud ei nyth ei hyn,
Y cwbwl mae hi eisiau
I'w canu ar ben ei hun.

Hannah Paynter Jones ac Eleri Williams.