![]()
|
|
![]() Dydd Llun daeth yr awdur Tony Bradman atom ni i Ysgol y Borth i ddarllen ychydig o'i lyfrau a dangos sut i ni sgwennu straeon gwell. Gwasanaeth y llyfrgell yn Llangefni oedd wedi trefnu iddo ddod atom, ac roedd o wedi dod yr holl ffordd o swydd Caint ar drên. Roedd o'n gweiso jîns a chrys glas, ac roedd o'n edrych yn gartrefol yn ein cwmni ni. Darllenodd stori 'Dilly the Dinosaur' i ni. Roedd honno'n stori gyffrous ac roedd ganddo ffordd dda iawn o wneud y stori'n llawer iawn mwy diddorol i ni. Roedd ganddo lawer o bethau i'w dweud wrthym a rhoddodd gyngor i ni ar sut i ysgrifennu stori dda. Dyma sut roedd o'n mynd o'i chwmpas hi i sgwennu stori:
Atebodd ein cwestiynau ni a dywedodd bod yn rhaid i'r athrawon feddwl am gwestiwn yn ogystal â ninnau (rhag iddyn nhw ddisgyn i gysgu yn ystod y wers!). Darllenodd rhan o'i lyfr 'The Frankenstein Teacher' a'r barddoniaeth mwy afiach byth am ryw anghenfiol a stwff gwyrdd yn dod o'i drwyn. Roedd y barddoniaeth yn andros o ddoniol ac roeddwn i'n chwerthin lot. Gwelodd fy ngherdd i am 'The Wolf and the Moon' ac roedd o'n hoff iawn ohoni. Gofynnodd i mi anfon copi iddo. Bu'r dosbarth wrthi'n brysur yn ysgrifennu llythyrau diolch iddo, ac roedd fy ngherdd i yng nghanol y llythyrau. Buaswn yn hoff iawn o weld Tony Bradman eto, roedd o'n gyfeillgar ac yn ddiddorol tros ben. Lisa Price, Ysgol y Borth |
|