![]() ![]() Y tymor diwethaf buom yn
reit lwcus yma yn ysgol Ffrwd Win oherwydd daeth y bardd Myrddin Ap Dafydd draw atom i
gael sgwrs. Roedd Mr Huws wedi clywed ar Radio 1, wrth ddod ir ysgol, fod Zoe Ball
yn dweud ei bod hin "Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth" ac, felly, roedd
yn andros o syniad da fod bardd yn dod atom ar y diwrnod yma. Ond mewn gwirionedd
Gwasanaeth Llyfrgell Môn oedd wedi trefnur diwrnod fel rhan o "Wythnos Llyfrau
Plant."
I ddechrau cawsom sgwrs hwyliog dros ben gan Myrddin Ap Dafydd. Eglurodd mai gwers ddiflas iawn oedd barddoniaeth yn yr ysgol pan oedd o yr un oed a ni, ond maen rhaid dweud nad oedd hyn yn wir o gwbwl pan oedd o yn cyflwyno barddoniaeth i ni roedd yn grêt ac yn ddoniol ofnadwy. Roedd o, a ni, yn chwarae hefo geiriau i ddechrau ac yn ceisio cael geiriau tebyg at ei gilydd. Yr enw posh ar hyn, wrth gwrs, yw odl. Darllenodd dipyn oi farddoniaeth allan oi lyfrau "Llew go Lew" ac "Ych a fi mae on neis". Dywedasom wrtho ein bod wedi gwirioni gydai dei oherwydd roddem yn gyfarwydd gydar gerdd yma. Roeddem yn glana chwerthin pan roedd y tei pinc i lawr y sinc, tei mwstard yn y cwstard, tei goch yn y bwyd moch a'r tei neifi yn y grefi.' Wel, roedd rhaid i ni fod yn feirdd wedyn. Roeddem yn lwcus hefo Myrddin Ap Dafydd in rhoi ar ben ffordd. Dywedodd wrthym am feddwl am gymeriadau cartwnaidd hefo enwau oedd yn chwarae gydai gilydd e.e Tomos y Tanc,Jymbo Jet, Harir Helicopter a Dennis The Menace. Cawsom frenwêf ac mi feddyliasom am
Nwdl y Pwdl, a hwn oedd y cymeiriad cartwnaidd a ddewisom ar gyfer ein cerdd.
Yr ail dasg oedd ceisio am wahanol gymhariaethau i ddisgrifio anifeiliad. Gwelsom ein bod yn gwneud gwell job os roeddem yn defnyddio rhywbeth hollol wahanol i anifail pan yn cymharu: e. e. "Efallai mai gwefusau wedi cracio yw igwana." Roedd pob grwp yn gorfod ffurfio un pennill yn y modd yma. Daethom at ein gilydd wedyn i ymunor penillion i gyd gydai gilydd i ffurfio un gerdd. Pan oeddem yn darllen y cwbwl hefoi gilydd roedd yn swnion reit dda. Dyma hi: :
Daeth amser mynd adref yn fuan iawn ac roedd pob un ohonom or un meddwl, sef, doedd gwers barddoniaeth Myrddin Ap Dafydd ddim byd tebyg i'w un o pan yn blentyn. Doedd dim byd yn ddiflas a " boring" ynddo. Hwyl a sbri oedd o, ac roeddym yn ddiolchgar iawn iddo am ddod atom. Lle mae ei dei o? Rydym wrth ein bodda yn gwrando arno yn sôn am hynt a helynt y tei gwahanol liwiau. Mae Huw, sydd a i ddwylo dan ei ên, yn methu deall lle maer tei yma wedi diflannu! " Gwrandwch rwan blant, mae'n rhaid cael syniad da sut i ddisgrifior sebra yna! Mae'n rhaid ei gymharu fo gyda rhywbeth sydd ddim yn anifail." Dyma beth ddywedodd yr Holyhead and Anglesey Mail am ymweliad Myrddin Ap Dafydd i Ffrwd Win. ![]() ![]() ![]() |
|||