Yn ōl..Y Gwasanaeth Llyfrgell                 gwas.gif (4698 bytes)

Fideos

Mae dewis o fideos yn y llyfrgell hefyd.  Gellir eu benthyca am wythnos ar docyn oedolyn yn unig.
(Bydd tāl bychan i'w dalu)

 

Technoleg Gwybodaeth

Mewn rhai llyfrgelloedd mae yna
fynediad i'r Rhyngrwyd a chyfle i
ddefnyddio CD-romau.

Benthyca

Eisiau benthyg llyfr neu lyfr ar dāp? Gellir gwneud hyn yn rhad ac am ddim a chadw'r llyfrau am 3 wythnos. 
Mae digonnedd o storiau a llyfrau gwybodaeth o bob math ar gael i ddewis ohonynt.

Adnewyddu

Heb orffen eich llyfrau? Dim problem. Gellir ffonio, galw neu lythyru (e-bost) i ofyn i'r llyfrgell am 3 wythnos arall i orffen eu darllen.  Does dim tāl am lyfrau plant sy'n hwyr.

Ceisiadau

Eisiau llyfr ond methu ei weld?   Gofynnwch yn y llyfrgell amdano ac fe wna nhw eu gorau i'w gael o lyfrgell arall.   Does dim i'w dalu.

cliciwch yma i chwilio catalog y llyfrgell