Ymholiadau
Mae'r llyfrgell yn lle da i fynd i
gael atebion i bob math o gwestiynnau. Cewch hyd yn oed fynd yno i wneud eich gwaith
cartref! |
Ymaelodi
Nid yw'n costio dim i ddod yn aelod
o'r llyfrgell. Holwch am ffurflen dod yn aelod, ac unwaith y bydd rhiant neu ofalwr
wedi arwyddo'r cerdyn, cewch docyn llyfrgell eich hun. |
Help
Ym mhob llyfrgell mae yna staff
cyfeillgar sy'n barod i'ch helpu. Peidiwch a bod ofn gofyn os ydych eisiau help. |