| |
![]() |
| Ysgol Y Wern |
| Bympyti-Bymp gan Ruth
Morgan (addasiad Rhian Pierce Jones) Rydyn ni wedi bod yn darllen llyfr Bympyti-Bymp yn y dosbarth. Dyma i chi lyfr da. Stori yw hi am ddau gar bymper o'r enw Gorau Glas a Coblyn Coch. Mae Yncl Wil wedi cael y ceir o ffair y Bari i'w trwsio. Nith Yncl Wil yw Lowri sydd fod i wisgo ffrog binc i briodas ei modryb. Mae mam Lowri yn mynnu ei bod yn gwisgo ffrog binc fel candi fflos. Un noson mae un o'r ceir, Coblyn Coch yn dianc ac mae Coblyn Coch yn gwneud ei orau i sarnu ffrog binc Lowri. Darllenwch y llyfr yma oherwydd mae'n ddoniol, yn llawn antur a chyffro. Ein hoff darn ni oedd pan ddywedodd Yncl Wil, ''Gwna dy orau glas Gorau glas!" Ewch allan i'w brynu nawr. Rebeca Davies a Catrin Dumont-Jones, Ysgol Y Wern. |
| Oes gennych chi hoff lyfr? Ydych
chi newydd orffen darllen llyfr gwerth chweil? Anfonwch atom i ddweud pam roeddech chi'n ei hoffi! |