Llyfr y Mis |
Maer llyfr yn un o gyfres Llyfrau Lloerig gyda lluniau ar bob tudalen a llun gwych o Mins ei hun ar y clawr! Bochdew geneth or enw Sali yw Mins. Mae Mins yn hoff iawn o gnoi papur yn ddarnau mân, dyna pam ddewisiodd Sali yr enw Mins iddo! Gan bod Sali yn hoffi ysbio a Mins yn hoffi cnoi papur mae Salin gofyn i Mins ei helpu i fod yn sbei trwy cael gwared o negeseuon dirgel cyn i neb arall eu darllen. Beth am ddarllen y llyfr hwn - cyn i fochdew ei gnoi - a gweld beth all Mins ei wneud pan ddaw lleidr i gartref Sali a Mins. Siân Lewis yw awdur y llyfr gyda lluniau gan Sue Morgan. Gwasg Gomer £2.50 |
Dyma fwy o lyfrau gwerth chweil yn y gyfres Llyfrau Lloerig: Y Crocodeil Anferthol - addasiad gan Emily Huws Y Fisgeden Fawr - addasiad gan Nansi Pritchard Dannedd Dodi Tad-cu gan Martin Morgan Y Llew Go Lew gan Myrddin ap Dafydd |