Llyfr y Mis |
Mae Gwenno yn casau bod ei thad yn ysmygu trwyr amser, felly mae hin penderfynu ceisio rhoi stop ar yr hen ymarfer ych-a-fi am byth. Maen trio sawl cynllun gwahanol: gwylltio, gofyn yn neis, rhoi posteri i fyny ym mhobman yn y ty, a mynd ir llyfrgell i nol llyfrau yn dangos effeithiau ysmygu ar y corff. Ond nid oes dim yn gweithio, a pharhau i ysmygu ar y slei mae ei thad. Yna un diwrnod, maer sied yn mynd ar dân, ar gyfrinach y bu ei thad yn gweithio mor galed arno yn y sied hefyd yn llosgin ulw. Oes yna ddiwedd hapus? Beth oedd yn y sied? Gaiff Gwenno yr anrheg penblwydd mae hi wedi bod yn ofyn amdano ers tro? Darllenwch y stori hawdd iw darllen hon i gael gweld! Iola Jôns, Gwasg Gomer £3.50 |
Dyma fwy o lyfrau gwych yng Nghyfres Corryn: Cyw Hyll - addasiad gan Gwenno Hughes Bywyd i'r Bobl - addasiad gan Meinir Pritchard Trwco - addasiad gan Hefin Jones Dilo - addasiad Gordon Jones Jean ar y Sgrîn gan Gordon Jones |